Cylchgrawn chwaraeon newydd i “ddod â hanesion y Cymry ym myd y campau yn fyw”

https://golwg.360.cymru/chwaraeon/2128733-lansio-cylchgrawn-chwaraeon-newydd-ddod-hanesion

Dros y penwythnos (Medi 1) lansiwyd cylchgrawn chwaraeon newydd i fod yn gartref i gampau Cymru. Chwys yw enw’r cylchgrawn digidol, sy’n “wasanaeth arloesol” yn y Gymraeg gan gwmni Golwg. O’r Vuelta a España i ralïau ceir i glybiau lleol yr wythnos, a hyd yn oed snorclo corsydd – bydd Chwys yn rhoi sylw i gamp y Cymry ar draws y meysydd chwaraeon.

1 points · 0 comments · view on lemmy.world

0 Comments

No comments yet.